Enghraifft o'r canlynol | digwyddiad aml-chwaraeon ![]() |
---|---|
Dyddiad | 1970 ![]() |
Dechreuwyd | 16 Gorffennaf 1970 ![]() |
Daeth i ben | 25 Gorffennaf 1970 ![]() |
Cyfres | Gemau'r Gymanwlad ![]() |
Lleoliad | Caeredin ![]() |
Yn cynnwys | badminton at the 1970 British Commonwealth Games ![]() |
![]() |
9fed Gemau'r Gymanwlad Brydeinig | |||
---|---|---|---|
![]() | |||
Campau | 121 | ||
Seremoni agoriadol | 16 Gorffennaf | ||
Seremoni cau | 25 Gorffennaf | ||
|
Gemau'r Gymanwlad Brydeinig 1970 oedd y nawfed tro i'r hyn sydd bellach yn cael ei adnabod fel Gemau'r Gymanwlad gael eu cynnal. Caeredin, Yr Alban oedd cartref y Gemau rhwng 16-25 Gorffennaf. Daeth y bleidlias i gynnal y Gemau yng Nghaeredin yn ystod Gemau Olympaidd Tokyo ym 1964 gyda Caeredin yn sicrhau 18 pleidlais a Christchurch, Seland Newydd 11.
Dyma oedd y Gemau cyntaf i ddefnyddio'r system fesur metric a'r Gemau cyntaf i ddefnyddio'r system camera i benderfynnu canlyniad rasys yn hytrach na'i gael fel cymorth i'r swyddogion. Dyma hefyd oedd y Gemau cyntaf i Frenhines Elizabeth II ei mynychu yn ei rôl fel pennaeth y Gymanwlad.
Ar ôl colli Gemau 1966, daeth bowlio lawnt yn ôl i'r Gemau yn lle saethu a daeth Ved Prakash o India y person ieuengaf erioed i ennill medal aur yn y Gemau wrth gipio medal aur yn y reslo yn 14 mlwydd oed.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search